2 Corinthiaid 7:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10. Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.

11. Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.

12. Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o'i blegid ef a wnaethai'r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.

13. Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.

14. Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15. Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.

16. Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.

2 Corinthiaid 7