2 Corinthiaid 7:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o'r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser.

9. Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10. Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.

11. Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.

12. Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o'i blegid ef a wnaethai'r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.

2 Corinthiaid 7