1. Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2. Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb.
3. Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.
4. Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o'ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder.
5. Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.