2 Corinthiaid 6:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,

5. Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,

6. Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith,

7. Yng ngair gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy,

2 Corinthiaid 6