2 Corinthiaid 3:10-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.

11. Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus.

12. Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:

13. Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.

14. Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae'r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir.

15. Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae'r gorchudd ar eu calon hwynt.

16. Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.

17. Eithr yr Arglwydd yw'r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid.

18. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.

2 Corinthiaid 3