2 Corinthiaid 3:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?

2. Ein llythyr ni ydych chwi yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn:

3. Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.

4. A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:

5. Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;

6. Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i'r llythyren, ond i'r ysbryd: canys y mae'r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywhau.

2 Corinthiaid 3