2 Corinthiaid 13:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi.

10. Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.

11. Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw'r cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi.

12. Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r holl saint yn eich annerch chwi.

13. Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.

2 Corinthiaid 13