6. Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy.
7. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy.
8. Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd.
9. Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi.
10. Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.
11. Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw'r cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi.