2 Corinthiaid 11:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi.

2. Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a'ch dyweddïais chwi i un gŵr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist.

3. Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.

4. Canys yn wir os ydyw'r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef.

5. Canys yr ydwyf yn meddwl na bûm i ddim yn ôl i'r apostolion pennaf.

6. Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim.

7. A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad?

8. Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i'ch gwasanaethu chwi.

9. A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.

10. Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia.

11. Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.

12. Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.

13. Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.

14. Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.

15. Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.

16. Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.

17. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.

18. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.

2 Corinthiaid 11