2 Corinthiaid 10:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Nid gan fostio hyd at bethau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth,

16. I bregethu'r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes.

17. Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

18. Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae'r Arglwydd yn ei ganmol.

2 Corinthiaid 10