2 Corinthiaid 1:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch;

4. Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu'r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy'r diddanwch รข'r hwn y'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.

5. Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau.

6. A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny.

7. Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o'r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.

8. Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd.

2 Corinthiaid 1