2 Corinthiaid 1:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.

15. Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o'r blaen, fel y caffech ail ras;

16. A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i Jwdea.

17. Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie, a nage, nage?

18. Eithr ffyddlon yw Duw, a'n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage.

19. Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.

20. Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.

21. A'r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist, ac a'n heneiniodd ni, yw Duw:

22. Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnau.

23. Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth.

24. Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i'ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

2 Corinthiaid 1