4. Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i Ramoth‐Gilead.
5. A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oll? Dywedodd yntau, A thydi, O dywysog.
6. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i'r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd, sef ar Israel.
7. A thi a drewi dŷ Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr Arglwydd, ar law Jesebel.
8. Canys holl dŷ Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a'r hwn a adawyd yn Israel.
9. A mi a wnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa.
10. A'r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a'i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.
11. A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a'i ymadroddion.
12. Dywedasant hwythau, Celwydd; mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel.
13. A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a'i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgorn, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.