2 Brenhinoedd 9:21-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22. A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a'i hudoliaeth, mor aml?

23. A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia.

24. A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd.

25. A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o'r Arglwydd arno ef y baich hwn.

26. Diau, meddai yr Arglwydd, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr Arglwydd. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr Arglwydd.

27. Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a'i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

2 Brenhinoedd 9