2 Brenhinoedd 9:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram.

17. A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i'w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?

18. A gŵr march a aeth i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A'r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

19. Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

20. A'r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: a'r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

21. A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22. A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a'i hudoliaeth, mor aml?

2 Brenhinoedd 9