2 Brenhinoedd 9:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r cŵn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a'i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd.

11. A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a'i ymadroddion.

12. Dywedasant hwythau, Celwydd; mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel.

13. A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a'i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgorn, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin.

14. A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw Ramoth‐Gilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria:

15. Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o'r archollion â'r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o'r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel.

16. Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled â Joram.

17. A gwyliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfon i'w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch?

18. A gŵr march a aeth i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. A'r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

19. Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

20. A'r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: a'r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

21. A Joram a ddywedodd, Rhwym y cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jehu, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad.

22. A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a'i hudoliaeth, mor aml?

2 Brenhinoedd 9