2 Brenhinoedd 9:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Eliseus y proffwyd a alwodd un o feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i Ramoth‐Gilead.

2. A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phâr iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel:

3. Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Mi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros.

4. Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i Ramoth‐Gilead.

5. A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air â thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oll? Dywedodd yntau, A thydi, O dywysog.

6. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i'r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd, sef ar Israel.

2 Brenhinoedd 9