8. A phan ddaeth y rhai gwahanglwyfus hyn hyd gwr eithaf y gwersyll, hwy a aethant i un babell, ac a fwytasant, ac a yfasant, ac a gymerasant oddi yno arian, ac aur, a gwisgoedd, ac a aethant, ac a'i cuddiasant, ac a ddychwelasant; ac a aethant i babell arall, ac a gymerasant oddi yno, ac a aethant, ac a'i cuddiasant.
9. Yna y dywedodd y naill wrth y llall, Nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn; y dydd hwn sydd ddydd llawen‐chwedl, ac yr ydym ni yn tewi â sôn; os arhoswn ni hyd oleuni y bore, rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.
10. Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a'r asynnod yn rhwym, a'r pebyll megis yr oeddynt o'r blaen.
11. Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a'i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.
12. A'r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o'r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o'r ddinas, ni a'u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i'r ddinas.
13. Ac un o'r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o'r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.
14. Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a'r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.