1. A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni.
2. Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch.
3. Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda'th weision. Dywedodd yntau, Mi a ddeuaf.
4. Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed.
5. A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i'r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.
6. A gŵr Duw a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a'i taflodd yno; a'r haearn a nofiodd.
7. Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd.
8. A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â'i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a'r lle y bydd fy ngwersyllfa.