18. Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i'th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr Arglwydd i'th was yn y peth hyn.
19. Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.
20. Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o'i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef.
21. Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda?
22. Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a'm hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad.