8. Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o'r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.
9. Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân.
10. A holl lu'r Caldeaid, y rhai oedd gyda'r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch.
11. A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.
12. Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.
13. Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.
14. Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r saltringau, y llwyau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith.
15. Y pedyll tân hefyd, a'r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.
16. Y ddwy golofn, yr un môr, a'r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.
17. Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith.