2 Brenhinoedd 25:28-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon.

29. Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fwyd yn wastadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei einioes.

30. A'i ran ef oedd ran feunyddiol, a roddid iddo gan y brenin, dogn dydd yn ei ddydd, holl ddyddiau ei einioes ef.

2 Brenhinoedd 25