2 Brenhinoedd 25:2-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r brenin Sedeceia.

3. Ac ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.

4. A'r ddinas a dorrwyd, a'r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a'r brenin a aeth y ffordd tua'r rhos.

5. A llu'r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a'i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a'i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho.

6. Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.

7. Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a'i dygasant ef i Babilon.

8. Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o'r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.

9. Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân.

10. A holl lu'r Caldeaid, y rhai oedd gyda'r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch.

11. A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.

12. Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.

13. Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.

14. Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r saltringau, y llwyau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith.

15. Y pedyll tân hefyd, a'r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.

16. Y ddwy golofn, yr un môr, a'r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.

17. Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith.

18. A'r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffaneia, yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.

19. Ac o'r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

2 Brenhinoedd 25