2 Brenhinoedd 25:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.

13. Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.

14. Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r saltringau, y llwyau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith.

15. Y pedyll tân hefyd, a'r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.

16. Y ddwy golofn, yr un môr, a'r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.

17. Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith.

18. A'r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffaneia, yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.

19. Ac o'r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

20. A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a'u dug at frenin Babilon, i Ribla.

21. A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.

2 Brenhinoedd 25