1. Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny, a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.
2. A'r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o'r Caldeaid, a thorfoedd o'r Syriaid, a thorfoedd o'r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a'u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i'w dinistrio hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.
3. Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda, i'w bwrw allan o'i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;
4. A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau.
5. A'r rhan arall o hanes Joacim, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
6. A Joacim a hunodd gyda'i dadau; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
7. Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o'i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.
8. Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.
9. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.