9. Eto offeiriaid yr uchelfeydd ni ddaethant i fyny at allor yr Arglwydd i Jerwsalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ymysg eu brodyr.
10. Ac efe a halogodd Toffeth, yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na'i ferch trwy dân i Moloch.
11. Ac efe a ddifethodd y meirch a roddasai brenhinoedd Jwda i'r haul, wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd, wrth ystafell Nathanmelech yr ystafellydd, yr hwn oedd yn y pentref, ac a losgodd gerbydau yr haul yn tân.
12. Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a'r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd, a ddistrywiodd y brenin, ac a'u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron.
13. Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o'r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra'r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra'r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon.
14. Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.