2 Brenhinoedd 23:35-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a'r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a'r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i'w rhoddi i Pharo‐Necho.

36. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma.

37. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.

2 Brenhinoedd 23