15. Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a'r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a'i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.
16. A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o'r beddau, ac a'u llosgodd ar yr allor, ac a'i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.
17. Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw.
18. Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â'i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria.
19. Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.
20. Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
21. A'r brenin a orchmynnodd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i'r Arglwydd eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.
22. Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda.
23. Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i'r Arglwydd yn Jerwsalem.
24. Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd.
25. Ac ni bu o'i flaen frenin o'i fath ef, yr hwn a drodd at yr Arglwydd â'i holl galon, ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.
26. Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.
27. A dywedodd yr Arglwydd, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o'm golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais, a'r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno.
28. A'r rhan arall o hanes Joseia, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
29. Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a'r brenin Joseia a aeth i'w gyfarfod ef, a Pharo a'i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.
30. A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a'i dygasant ef i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a'i heneiniasant ef, ac a'i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.
31. Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
32. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef.