2 Brenhinoedd 23:15-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a'r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a'i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.

16. A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o'r beddau, ac a'u llosgodd ar yr allor, ac a'i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.

17. Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw.

18. Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â'i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria.

19. Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.

20. Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

21. A'r brenin a orchmynnodd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i'r Arglwydd eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.

22. Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda.

23. Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i'r Arglwydd yn Jerwsalem.

24. Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd.

2 Brenhinoedd 23