2 Brenhinoedd 21:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.

23. A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.

24. A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

25. A'r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

26. A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2 Brenhinoedd 21