2 Brenhinoedd 21:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba.

2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

3. Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.

4. Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr Arglwydd, am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.

5. Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu'r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd.

6. Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.

7. Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd:

8. Ac ni symudaf mwyach droed Israel o'r wlad a roddais i'w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

9. Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a'u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

2 Brenhinoedd 21