6. Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i'r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf รข thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.
7. A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.
8. Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a'i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.