7. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8. Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.
9. A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd,
10. Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.
11. Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?
12. A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i'm tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?
13. Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
14. A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a'u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a'u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd.
15. A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd Dduw, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.
16. Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.
17. Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa'r holl genhedloedd a'u tir,
18. A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.
19. Yn awr gan hynny, O Arglwydd ein Duw ni, achub ni, atolwg, o'i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, tydi yn unig.
20. Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria.
21. Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a'th ddirmygodd di, ac a'th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di.
22. Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.
23. Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr Arglwydd, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a'i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i'w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.
24. Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac â gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchaeëdig.
25. Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol.
26. Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.
27. Dy eisteddiad hefyd, a'th fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a'th gynddeiriogrwydd i'm herbyn.