2 Brenhinoedd 19:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

4. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.

5. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

6. Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

7. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

2 Brenhinoedd 19