2 Brenhinoedd 19:29-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

30. A'r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

31. Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

2 Brenhinoedd 19