2 Brenhinoedd 19:26-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

27. Dy eisteddiad hefyd, a'th fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a'th gynddeiriogrwydd i'm herbyn.

28. Am i ti ymgynddeiriogi i'm herbyn, ac i'th ddadwrdd ddyfod i fyny i'm clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

29. A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

30. A'r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

31. Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

32. Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o'i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn hi.

33. Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.

34. Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

35. A'r noson honno yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

36. Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

37. A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â'r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2 Brenhinoedd 19