2 Brenhinoedd 17:26-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlad.

27. Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o'r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad.

28. Felly un o'r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd.

29. Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.

30. A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima,

31. A'r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a'r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.

32. Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o'u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.

33. Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno.

34. Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na'r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.

35. A'r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

36. Ond yr Arglwydd yr hwn a'ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch.

37. Y deddfau hefyd, a'r barnedigaethau, a'r gyfraith, a'r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i'w gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

38. Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:

2 Brenhinoedd 17