2 Brenhinoedd 16:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu.

2. Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, fel Dafydd ei dad:

3. Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy'r tân, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

4. Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

2 Brenhinoedd 16