2 Brenhinoedd 14:27-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a'u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.

28. A'r rhan arall o hanes Jeroboam, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a'r modd y dug efe adref Damascus a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

29. A Jeroboam a hunodd gyda'i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2 Brenhinoedd 14