12. A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i'w pebyll.
13. A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.
14. Ac efe a gymerth yr holl aur a'r arian, a'r holl lestri a'r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.
15. A'r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a'i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
16. A Joas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
17. Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.
18. A'r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
19. Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.
20. A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.
21. A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.
22. Efe a adeiladodd Elath, ac a'i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.
23. Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.
24. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
25. Efe a ddug adref derfyn Israel o'r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o Gath‐Heffer.
26. Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel.
27. Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a'u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.
28. A'r rhan arall o hanes Jeroboam, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a'r modd y dug efe adref Damascus a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
29. A Jeroboam a hunodd gyda'i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.