2 Brenhinoedd 14:11-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda.

12. A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i'w pebyll.

13. A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.

14. Ac efe a gymerth yr holl aur a'r arian, a'r holl lestri a'r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.

15. A'r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a'i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

16. A Joas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

17. Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.

18. A'r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

19. Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.

20. A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.

21. A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.

22. Efe a adeiladodd Elath, ac a'i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.

2 Brenhinoedd 14