2 Brenhinoedd 14:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda.

2. Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem.

3. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel Dafydd ei dad; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef.

4. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

5. A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef.

2 Brenhinoedd 14