2 Brenhinoedd 12:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o'r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd.

14. Eithr hwy a'i rhoddasant i weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr Arglwydd.

15. Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i'w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

16. Yr arian dros gamwedd a'r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr Arglwydd: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

17. Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a'i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem.

18. A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a'i gysegredig bethau ef ei hun, a'r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a'u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

2 Brenhinoedd 12