1. Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.
2. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef.
3. Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.