2 Brenhinoedd 10:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A'r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a'i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

10. Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i'r ddaear, yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.

11. Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a'i holl benaethiaid ef, a'i gyfneseifiaid ef, a'i offeiriaid, fel na adawyd un yng ngweddill.

12. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria. Ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

13. Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaseia brenin Jwda, ac a ddywedodd, Pwy ydych chwi? Dywedasant hwythau, Brodyr Ahaseia ydym ni; a ni a ddaethom i waered i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

14. Ac efe a ddywedodd, Deliwch hwynt yn fyw. A hwy a'u daliasant hwy yn fyw, ac a'u lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau ŵr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr ohonynt.

15. A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda'th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i'r cerbyd.

16. Ac efe a ddywedodd, Tyred gyda mi, a gwêl fy sêl i tuag at yr Arglwydd. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

17. A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

18. A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a'i gwasanaetha ef lawer.

19. Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a'i holl offeiriaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.

20. A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a'i cyhoeddasant.

2 Brenhinoedd 10