2 Brenhinoedd 10:28-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

29. Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a'r rhai oedd yn Dan.

30. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a'r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.

31. Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith Arglwydd Dduw Israel â'i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

32. Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel: a Hasael a'u trawodd hwynt yn holl derfynau Israel;

33. O'r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlad Gilead, y Gadiaid, a'r Reubeniaid, a'r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon, Gilead a Basan hefyd.

34. A'r rhan arall o hanes Jehu, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

35. A Jehu a hunodd gyda'i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a Joahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

36. A'r dyddiau y teyrnasodd Jehu ar Israel yn Samaria oedd wyth mlynedd ar hugain.

2 Brenhinoedd 10