2 Brenhinoedd 10:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac efe a ddywedodd, Tyred gyda mi, a gwêl fy sêl i tuag at yr Arglwydd. Felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

17. A phan ddaeth efe i Samaria, efe a drawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Samaria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Eleias.

18. A Jehu a gynullodd yr holl bobl ynghyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wasanaethodd Baal ychydig, ond Jehu a'i gwasanaetha ef lawer.

2 Brenhinoedd 10