1. Ac i Ahab yr oedd deng mab a thrigain yn Samaria. A Jehu a ysgrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria, at dywysogion Jesreel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,
2. Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn atoch chwi, canys gyda chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennych chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caerog, ac arfau:
3. Yna edrychwch yr hwn sydd orau, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosodwch ef ar deyrngadair ei dad, ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd.
4. A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant, Wele, dau frenin ni safasant o'i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?
5. Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a'r hwn oedd ar y ddinas, a'r henuriaid, a'r tadmaethod, at Jehu, gan ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a'r hyn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg.
6. Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd, a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.
7. A phan ddaeth y llythyr atynt, hwy a gymerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng nyn a thrigain, ac a osodasant eu pennau hwynt mewn basgedau, ac a'u danfonasant ato ef i Jesreel.
8. A chennad a ddaeth ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, Hwy a ddygasant bennau meibion y brenin. Dywedodd yntau, Gosodwch hwynt yn ddau bentwr wrth ddrws y porth hyd y bore.
9. A'r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a'i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?
10. Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i'r ddaear, yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe trwy law Eleias ei was.
11. Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a'i holl benaethiaid ef, a'i gyfneseifiaid ef, a'i offeiriaid, fel na adawyd un yng ngweddill.