1 Timotheus 5:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,

10. Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11. Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;

12. Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.

1 Timotheus 5