1 Timotheus 5:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.

7. A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.

8. Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.

9. Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,

10. Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.

11. Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;

12. Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.

13. A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.

1 Timotheus 5